Job 20

Ymateb Soffar: Bydd pobl ddrwg yn dioddef

1Yna dyma Soffar o Naäma yn ymateb:

2“Dw i ddim yn hapus o gwbl!
Dw i'n teimlo fod rhaid i mi ateb.
3Dw i wedi gwrando arnat ti'n ceryddu a sarhau,
ac mae pob rheswm yn fy nghymell i ateb:
4Wyt ti ddim yn sylweddoli? – ers cyn cof,
pan gafodd pobl eu gosod ar y ddaear gyntaf –
5dydy pobl ddrwg ddim yn cael dathlu'n hir.
Fydd yr annuwiol ddim ond yn hapus dros dro.
6Er i'w falchder dyfu'n dal,
nes i'w ben gyffwrdd y cymylau,
7bydd yn pydru fel ei garthion, ac yn diflannu am byth!
Bydd y rhai oedd yn ei nabod yn gofyn, ‘Ble aeth e?’
8Bydd wedi hedfan i ffwrdd fel breuddwyd wedi ei hanghofio;
fel gweledigaeth ddaeth yn y nos ac yna diflannu.
9Fydd y bobl oedd yn sylwi arno ddim yn ei weld eto;
fydd e ddim yno, lle roedd yn amlwg o'r blaen.
10Bydd rhaid i'w feibion dalu'n ôl i'r tlodion;
bydd ei blant yn gollwng gafael ar ei gyfoeth.
11Yn ifanc, a'i esgyrn yn llawn egni,
bydd yn gorwedd yn y llwch heb ddim.
12Er bod drygioni'n blasu'n felys iddo,
a'i fod yn ei gadw o'r golwg dan ei dafod,
13i gadw'r blas yn ei geg,
a cheisio ei rwystro rhag darfod;
14bydd yn suro yn ei stumog,
ac fel gwenwyn gwiber yn ei fol.
15Bydd yn chwydu'r holl gyfoeth a lyncodd;
bydd Duw yn gwneud iddo gyfogi.
16Roedd wedi sugno gwenwyn y wiber;
ac mae neidr arall yn ei frathu a'i ladd.
17Fydd e ddim yn cael mwynhau'r nentydd,
yr afonydd a'r ffrydiau diddiwedd o fêl a caws colfran.
18Fydd e ddim yn gallu cadw'r holl elw a lyncodd;
fydd e ddim yn cael mwynhau ffrwyth ei fasnachu.
19Pam? Am ei fod wedi sathru'r tlodion a'u gadael i ddioddef,
ac wedi dwyn tai wnaeth e ddim eu hadeiladu.
20Ond dydy e byth yn cael ei fodloni,
a dydy ei chwant am fwy byth yn ei adael.
21Does dim byd ar ôl iddo ei lowcio,
felly fydd ei lwyddiant ddim yn gallu para.
22Pan fydd ar ben ei ddigon, mae argyfwng yn dod,
a phob math o helyntion yn dod ar ei draws.
23Tra mae'n stwffio'i fol
bydd Duw yn anfon tân ei ddigofaint yn ei erbyn,
ac yn tywallt ei saethau i lawr arno.
24Wrth iddo ddianc rhag yr arfau haearn
bydd saeth bres yn ei drywanu.
25Wrth geisio ei thynnu allan o'i gefn,
a blaen y saeth o'i iau,
mae dychryn yn dod drosto.
26Mae tywyllwch dudew yn disgwyl am ei drysorau,
a bydd tân heb ei gynnau gan berson dynol yn ei losgi'n ulw,
ac yn difa popeth sydd ar ôl yn ei babell.
27Bydd y nefoedd yn dod â'i ddrygioni i'r golwg;
bydd y ddaear yn codi i'w gyhuddo.
28Bydd ei gartref yn cael ei ysgubo i ffwrdd gan lifogydd;
gan y llifeiriant ar ddydd digofaint Duw.
29Dyma dynged pobl ddrwg;
dyma'r etifeddiaeth fydd Duw yn ei rhoi iddyn nhw.”
Copyright information for CYM